Llanes

Llanes
Lleoliad Llanes

Mae Llanes (Sbaeneg: Llanes) yn dref ac yn ardal weinyddol yn Asturias. Mae ardal y cyngor yn ymestyn am tua 30 km ar hyd yr arfordir. Mae Llanes yn ffinio i'r dwyrain gyda Ribadeva, i'r gorllewin gyda Ribeseya ac i'r de gyda Cabrales yng nghrib uchel y galchfaen Sierra del Cuera, sy'n codi i dros 1,100 m. Saif yn rhanbarth Comarca d'Oriente, un o wyth rhanbarth yn Asturias.

Mae'r ardal yn rhan o'r Costa Verde (yr Arfordir Gwyrdd) sy'n adnabyddus am ei golygfeydd arfordirol ysblennydd, gyda 32 o draethau tywod gwyn. Mae Llanes i'r gogledd o'r Picos de Europa, mynyddoedd a wnaed bron yn gyfan gwbl o garst galchfaen.

Mae'r rhan fwyaf o drigolion yr ardal yn byw ger yr arfordir; y dref fwyaf yw Llanes ei hun, gyda phoblogaeth o tua 4,000 allan o'r cyfanswm ar gyfer yr ardal o oddeutu 13,000. Mae'r draffordd A-8 yn croesi'r cyngor o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd yr arfordir. Mae lein rheilffordd un-trac yn cario dur a nwyddau eraill yn ogystal â theithwyr. Mae'n rhan o'r lein rhwng Uviéu a Santander. Ac mae Llwybr Santiago yn croesi'r ardal o'r dwyrain i'r gorllewin; llwybr yr arfordir neu lwybr y gogledd yw hwn.

Mae canol tref Llanes yn dal i ddilyn y patrwm strydoedd cul canoloesol, ac mae rhan o furiau'r dref (13g) o hyd i'w gweld uwchben traeth Sablon. Tŵr Llanes yw'r adeilad canoloesol mwyaf pwysig. Mae llên gwerin, bwyd a ffiestas y rhanbarth yn enwog am eu lliw a'u hanes.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search